Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!
Golygyddol
Cara
Llond bol
MABWYSIADU YNG NGHYMRU Taith sy’n para oes • Yn yr erthygl arbennig hon ar fabwysiadu, mae Cara wedi casglu ynghyd straeon personol a gwybodaeth gan arbenigwyr yn y maes am y broses sy’n medru trawsnewid bywydau.
ASIANTAETHAU PERTHNASOL AR GYFER DARPAR FABWYSIADWYR • Mae dewis yr asiantaeth fabwysiadu gywir yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn ei wneud fel darpar fabwysiadwr.
PWY SY’N GALLU MABWYSIADU?
STRAEON PERSONOL
Gwyddno yw Gwyddno • Flwyddyn yn ôl, cafodd mab Branwen Llewellyn ddiagnosis o gyflwr genetig prin. Aeth LLINOS DAFYDD i’w holi am y diagnosis, y driniaeth, a’r bachgen doniol, creadigol a stwbwrn sydd, yn ei geiriau hi, “yn briliant”.
LLYGREDD AC IECHYD MAMAU
Persbectif newydd • Mae TESS POWELL yn gweithio yn Amgueddfa Cymru ac fel artist yng Nghaerdydd ar ôl symud o San Jose. Mae’n Gymraes newydd sy’n ysu i ddysgu mwy am yr iaith a’r wlad.
Cymryd cam mewn ffydd • Ers rhai blynyddoedd, mae GWENNO REES yn gweithio fel athrawes yn Ninas Mecsico. Bu Cara yn ei holi am hanes ei bywyd.
Deg awgrym gorau Gwenno i ymwelwyr
Ninas Mecsico
Seren y llysiau • Y tro hwn, mae DELYTH HUW THOMAS yn canolbwyntio eto ar un llysieuyn arbennig, sef y bwmpen cnau menyn.
Paru bwyd a diod • DEIAN BENJAMIN, arbenigwr gwin Prynhawn Da ar S4C, Bore Cothi ar BBC Radio Cymru a cholofnydd gyda’r Western Mail, sy’n rhannu ei awgrymiadau am ddiodydd addas i’w gweini gyda ryseitiau Delyth Huw Thomas.
Cynhwysion rhag ofn
Melfaréd meddal • Y tro hwn, mae HELEN ANGHARAD HUMPHREYS yn edrych ar ddillad cynnes a meddal ar gyfer y misoedd oer.
Seren Jones
Yr ardd dawel • Mae NAOMI SAUNDERS, arbenigwr garddio Cara, yn mynd ar drywydd gardd y gaeaf y tro hwn.
Ystafell agored a chlyd • Mae ELIN EVANS y tro hwn yn rhannu ei dewisiadau a’i phenderfyniadau wrth gynllunio ystafell fyw.
Llai o straen, mwy o fywyd • Yn yr erthygl olaf yn y gyfres gan ELIN WYN WILLIAMS, mae hi’n edrych ar sut y gall iechyd a ffitrwydd ein helpu i ymdopi â bywyd yn gyffredinol.
I’r Bont-faen – y dref rhwng y ddinas a’r môr • RHIAN HANSON JONES sy’n ein tywys drwy dref farchnad hynafol y Bont-faen.
O’r clos
Canllaw anrhegion Dolig Cara • Dyma ambell syniad am anrhegion Nadolig, sy’n gyfle i chi gefnogi busnesau bach Cymreig.
Cadw’n gynnes mewn steil • Bydd y cyfnod nesaf yn brysur i Katie Victoria Davies, wrth gynllunio, creu a gwerthu cynnyrch gwlân o’r ansawdd gorau – perffaith ar gyfer dyddiau oer y gaeaf. Aeth MELERI WYN JAMES i siarad â hi.
Mary Lloyd Jones: llais y lliwiau llachar • Gydag arddangosfa o’i gwaith diweddaraf i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd, dyma rywfaint o hanes yr artist Mary Lloyd Jones.
Hunandderbyn drwy ddarlunio • Fyddech chi’n ystyried modelu’n noeth? TANWEN HAF sy’n trafod sut mae darlunio bywyd (life drawing) yn gallu bod yn beth positif i’r corff a’r meddwl.
Cystadleuaeth Cara
Cofio am Nain • Mae hi bellach dros flwyddyn ers i ERIN JONES ddechrau fel ymchwilydd gyda Tinopolis.
Syllu ar y Sêr • Ar ôl misoedd lawer, bydd Sadwrn, Neifion ac Wranws yn symud ymlaen y gaeaf hwn ac yn cadarnhau’r amgylchiadau presennol, yn hytrach na dechrau rhywbeth newydd. Mae 6–9 Chwefror yn gyfnod o weithgaredd seryddol prysur iawn, yn enwedig yn wleidyddol ac yn fyd-eang.
Comedi
Cylchgrawn i fenywod. Gan fenywod. Am fenywod.